Y Ffeithiau

I ddeall pam fod trigolion dalgylch Bronglais yn pryderu gymaint am y diffyg mynediad i wasanaethau gofal iechyd, mae’n bwysig deall cyd-destun y pryderon hyn.

Map showing Bronglais in relation to other hospitals

Yn gyntaf, rhaid ystyried daearyddiaeth yr ardal mewn perthynas â’r ffyrdd traddodiadol o gael gafael ar ofal iechyd. Mae pobl bob amser wedi defnyddio Meddyg Teulu fel eu pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y rhan fwyaf o wasanaethau gofal iechyd (gofal Sylfaenol); mae gwasanaethau gofal eraill, megis gwasanaethau gofal brys, yn cael eu defnyddio drwy’r adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf yn yr Ysbyty Cyffredinol Dosbarth (YCD). Caiff unrhyw symptomau na all y Meddyg Teulu ddelio â hwy neu y mae angen ymchwilio iddynt ymhellach eu hatgyfeirio at wasanaeth gofal Eilaidd, yn yr YCD lleol yn draddodiadol. Mewn rhai achosion cymhleth neu brin iawn, gellid atgyfeirio’r achos at ganolfan arbenigol sydd ymhellach i ffwrdd (gofal Trydyddol).

Yng Nghanolbarth a De-orllewin Cymru mae pedwar YCD (Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli ac Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin) a darperir gwasanaethau trydyddol yn bennaf yn Ysbyty Treforys ac, i raddau llai, Ysbyty Singleton, dau ysbyty sydd wedi’u lleoli yn Abertawe. Bronglais yw’r YCD a’r adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf i drigolion rhannau helaeth o ganolbarth Cymru (gweler y Map). Mae unrhyw fygythiad i’r gwasanaethau a ddarperir ym Mronglais yn golygu y byddai’n rhaid i bobl deithio o leiaf awr yn fwy i ddefnyddio’r gwasanaeth hwnnw (Bangor neu Wrecsam yn y Gogledd, yr Amwythig i’r Dwyrain a Chaerfyrddin i’r De).

Ar ddiwedd 2005 cyhoeddodd y Byrddau Iechyd Lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru ddogfen strategaeth ar gyfer darparu gofal iechyd ledled Dyfed (Cynllun Cyflenwi - pennu ffurf ein hysbytai acíwt yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, BILl Ceredigion 2005). Yn ei hanfod, roedd y ddogfen hon yn awgrymu bod angen canoli’r rhan fwyaf o wasanaethau gofal eilaidd yr ardal mewn un YCD. Byddai ysbyty Bronglais yn cael ei israddio i Ysbyty Lleol Cyffredinol. O ganlyniad i hyn, ni fyddai gwasanaethau pediatreg, obstetreg, mamolaeth na’r rhan fwyaf o wasanaethau llawdriniaeth ar gael ym Mronglais mwyach. At hynny, cynigiwyd y byddai adran Damweiniau ac Achosion Brys Bronglais ar agor yn ystod oriau gwaith arferol yn unig. Cynigiwyd cynlluniau tebyg ar gyfer Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro.

Yn ystod y cyfnod ymgynghori yng ngwanwyn 2006, nododd trigolion Gogledd Ceredigion, Dwyrain Powys, De Gwynedd a Sir Benfro fod y model arfaethedig yn annerbyniol. Prif resymau’r cyhoedd dros wrthwynebu oedd anghydraddoldeb o ran mynediad a’r ffaith nad oedd digon o gyfleusterau priodol ar gael. O ganlyniad i wrthwynebiad y cyhoedd a diffyg cefnogaeth yn gyffredinol, tynnwyd y cynigion yn ôl. Cafwyd cydnabyddiaeth gyffredinol fod y rhesymau a roddwyd dros y newid yn ddilys felly, i geisio cydsyniad o ran y ffordd ymlaen, sefydlwyd grŵp mawr o randdeiliaid (Fforwm Cynllunio’r Tair Sir).

Cafodd y Fforwm hwn rywfaint o lwyddiant; er enghraifft, cytunwyd ar fodel gofal ar gyfer Canser y Fron gyda chydbwysedd rhwng gofal arbenigol o bell a hygyrchedd, a oedd yn golygu bod cleifion yn cael 95% o’u gofal yn lleol, hyd yn oed mewn achosion lle roedd angen llawdriniaeth arbenigol. Bu hyn yn bosibl o ganlyniad i barodrwydd yr ymgynghorydd arweiniol i deithio a manteisio ar dechnoleg fodern. Yn gyffredinol, nid oedd ymarferwyr yn barod i deithio ac nid oedd rheolwyr yn barod i neilltuo amser i ganiatáu i’r ymarferwyr deithio. Fodd bynnag, pan ffurfiwyd bwrdd iechyd Hywel Dda, addaswyd fforwm cynllunio’r tair sir yn sylweddol i ffurfio’r “grŵp cyfeirio rhanddeiliaid” (GCRh), a oedd yn debyg i’r corff herio annibynnol gwreiddiol, heb fod cystal ag ef. Ni chafwyd gwrthwynebiad gan y cyhoedd na’r cleifion, felly ailffurfiwyd grŵp aBer (‘arbed Bronglais emergency rescue’). Mae’r grŵp hwn yn un mawr ac yn cynnwys gweithrediaeth graidd.

Mae’n bwysig disgrifio aelodaeth gweithrediaeth y grŵp gweithredu hwn ar gam cynnar er mwyn dangos bod y grŵp yn cynnwys trigolion lleol gwybodus, proffesiynol ac ymrwymedig (nid grŵp o brotestwyr adweithiol yn unig). Diffinnir aelodau’r grŵp yn ôl eu rolau yn hytrach na’u henwau gan fod y sefyllfa’n un sensitif.

Cadeirydd

Cyn-gyfarwyddwr meddygol Ymddiriedolaeth Ceredigion a chanolbarth Cymru.

Aelodau:

Cadeirydd diweddaraf Ymddiriedolaeth Ceredigion a Chanolbarth Cymru
Meddyg Teulu sydd wedi ymddeol a oedd yn aelod o Awdurdod Iechyd Dyfed
Cadeirydd diweddaraf Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) Ceredigion a Chadeirydd Bwrdd y CICau yng Nghymru
Ymgynghorydd ym maes Pediatreg, sydd wedi ymddeol
AS lleol
ACau lleol (neu eu cynrychiolwyr)
Gweithwyr Iechyd Proffesiynol eraill na ellir eu henwi na’u disgrifio.

Ffurfiwyd y grŵp hwn, aBer, i wrthwynebu cynigion y “Cynllun Cyflenwi”. Ar ôl llwyddiant yr ymgyrch honno, cafodd y sefydliad ei ddirwyn i ben i bob diben oherwydd roedd aelodau’n hyderus fod Fforwm Cynllunio’r Tair Sir yn grŵp dibynadwy o randdeiliaid a sefydlwyd i gynllunio gwasanaeth cyfiawn ledled y tair sir. Fodd bynnag, yn ystod haf 2010 cyhoeddwyd dogfen yn amlinellu cynlluniau rheolwyr newydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda heb yn wybod i’r uwch reolwyr a heb eu caniatâd (Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda – Cynllun Gwario i Arbed y Strategaeth Gwasanaethau Iechyd Gwledig, 9fed Gorffennaf 2010). Ailffurfiwyd y grŵp i gynrychioli diddordebau trigolion Canolbarth Cymru o ganlyniad i’r pryder sylweddol a achoswyd gan hyn.

Tynnwyd y cynllun yn ôl o ganlyniad i gyhoeddusrwydd eang, a chyhoeddwyd dogfen swyddogol ar frys gan y Bwrdd Iechyd, sef ‘Y Gofal Iawn, yn y Lle Iawn, ar yr Amser Iawn… Bob Tro’. Nid oedd y ddogfen hon yn cynnwys unrhyw fanylion, yn wahanol i’r ddogfen a ddatgelwyd yn answyddogol a oedd yn ymddangos fel pe bai’n nodi manylion cynlluniau gwasanaeth, costau a chynlluniau gweithlu. Gwnaeth hyn, yn ogystal â’r rhesymau annhebygol dros dynnu’r cynllun a ddatgelwyd yn answyddogol yn ôl (sef bod y ddogfen wedi’i llunio i gael arian gan Gynulliad Cymru yn unig), ddwysau amheuon rheolwyr y Bwrdd Iechyd a’u cred bod y bwriadau gwirioneddol wedi’u nodi yn y ddogfen a ddatgelwyd yn answyddogol.

Parhaodd y Bwrdd Iechyd i honni nad oedd ganddo unrhyw gynlluniau cadarn a gwrthododd gymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau gyda phobl leol ynghylch ei gynlluniau. Byddai’r Bwrdd Iechyd yn dadlau ei fod yn llunio cynlluniau gyda chymorth ei glinigwyr, mewn ymgynghoriad â’r CIC a’r grŵp cyfeirio rhanddeiliaid (GCRh). Mae’r Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) mewn sefyllfa anodd, a gwahoddwyd y GCRh gan y Bwrdd Iechyd ac felly ni ellir ei ystyried yn annibynnol. O ganlyniad, penderfynodd grŵp aBer fod angen newid ei ddull gweithredu.

Paratowyd dogfen gan yr awdur ar ôl cyfweld â Meddygon Teulu lleol, rheolwyr iechyd, uwch glinigwyr yn yr ysbyty ac academyddion - dogfen Gofal Iechyd Canolbarth Cymru. At hynny, byddai’r ymgyrch fwy negyddol a oedd yn ymosod ar gynlluniau’r Bwrdd Iechyd yn cael ei datblygu. Trefnwyd cyfarfod cyhoeddus yn Aberystwyth ym mis Mawrth 2011 o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Elystan Morgan i ddangos gwir ddicter y cyhoedd. Cefnogwyd y cyfarfod gan lawer o sefydliadau mawr yr ardal (y Cyngor Sir, Prifysgol Aberystwyth, cynghorau Tref a Chymuned Lleol) a nifer fawr o’r cyhoedd (tua 300). Gwnaed cyflwyniad i amlinellu’r dirywiad amlwg yn y gwasanaethau a ddarperir ym Mronglais ynghyd â’r diffyg ymrwymiad o ran dyfodol yr ysbyty a welwyd mewn tystiolaeth eilaidd (e.e. hysbysebion swydd yn cynnwys disgrifiadau sy’n sôn am ganoli gwasanaethau yng Nghaerfyrddin). Y brif dystiolaeth oedd y dadfuddsoddiad yn ysbyty Bronglais ac, yn bwysicach fyth, y newidiadau i gynllun ‘blaen y tŷ’.

Cyn y newid i dîm rheoli Hywel Dda, cynlluniwyd datblygiad gyda chyfraniad sylweddol gan randdeiliaid - grŵp Blaen y Tŷ (gan gynnwys staff, y Cyngor Iechyd Cymuned a chleifion) - a aeth i’r afael â phroblemau yn ymwneud â gofod ac, yn bwysicach, y ffaith fod y theatrau llawdriniaethau wedi’u “condemnio” ers 2004. Roedd yn amlwg na fyddai’n bosibl adnewyddu’r theatrau yn eu lleoliadau presennol i sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau modern, felly cafodd pedwerydd llawr ei gynnwys ar gyfer theatrau newydd. Golyga hyn y byddai’r theatrau newydd cryn bellter i ffwrdd o’r Uned Gofal Dwys (UGD), ond ar ôl ceisio cyngor cytunwyd y byddai coridor cyswllt pwrpasol yn datrys y broblem o ran pellter. Hefyd, nodwyd yn glir na fyddai’n bosibl cynnwys ardal lanio ar gyfer hofrenyddion ar ben yr adeilad newydd.

Fodd bynnag, cafodd y cynlluniau eu gwrthdroi gan y tîm rheoli newydd, a lleihawyd cwmpas y datblygiad yn unochrog. I ddechrau, nododd y Bwrdd ei bod yn beryglus lleoli theatrau mor bell o’r Uned Gofal Dwys, y byddai’n adnewyddu’r theatrau yn eu lleoliadau presennol, ac y caiff ardal lanio ei hadeiladu ar gyfer hofrenyddion. Roedd yr holl ffeithiau hyn yn groes i’r cyngor a’r ystyriaeth hir a gofalus a roddwyd i’r broblem gan Grŵp Blaen y Tŷ. Atgyfnerthwyd y gred bod y Bwrdd Iechyd yn gweithio yn unol â chynllun pendant, nad yw’n cynnwys Llawdriniaeth Gyffredinol ym Mronglais yn y tymor hwy, gan y penderfyniad i wrthdroi’r cynllun unochrog, ac mae hyn hefyd yn cyfateb i’r cynllun yn y ddogfen a ddatgelwyd yn answyddogol (y mae’r Bwrdd Iechyd yn honni nad yw’n adlewyrchu ei gynllun). Arweiniodd y weithred hon at gyfarfod gyda Chadeirydd a Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd. Gwnaed cais i’r cyfarfod gael ei gynnal o dan reolau “Tŷ Chatham”, sy’n golygu na ellid datgelu manylion adnabod y siaradwyr i’r sawl nad oedd yn bresennol. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn, ond roedd yn anfoddhaol iawn.

Yn sgîl y ffaith bod trigolion Canolbarth Cymru wedi’u difreinio, yn ogystal â’r diwygiadau i’r Cynghorau Iechyd Cymuned, ehangodd grŵp aBer ei gynulleidfa drwy anfon siaradwyr i gyfarfodydd cyhoeddus mewn siroedd cyfagos. Cliciwch yma i weld cyflwyniad PowerPoint y cyfarfodydd hyn. Daeth llawer o bobl i’r cyfarfodydd yn Aberystwyth (550 o bobl), Machynlleth (400 o bobl) a Thywyn (400 o bobl) a gwrthwynebwyd y cynlluniau a grybwyllir yn nogfennau trafod y Bwrdd Iechyd yn unfrydol. Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd wedi cynnal rhai digwyddiadau “ymgysylltu”. Yn Aberteifi, mynychwyd y digwyddiad gan lai na 100 o bobl – gyda’r rhan fwyaf yn meddwl bod y cyfarfod yn ymwneud ag Ysbyty Aberteifi. Yn Aberystwyth a Llanelli aeth llawer o’r boblogaeth leol i’r digwyddiadau i fynegi eu dicter mewn perthynas â diffyg gonestrwydd y Bwrdd Iechyd a’r dulliau gormesol a ddefnyddiwyd i reoli staff.

At hynny, anfonodd corff Ymgynghorol ysbyty Bronglais lythyr (cliciwch yma i ddarllen y llythyr ar wefan y BBC) i’r Gweinidog yn mynegi siom o ran y broses a chanlyniad cynlluniau’r Bwrdd, ac yn nodi ei fod wedi colli hyder yng ngallu’r Bwrdd i gynllunio a darparu gwasanaethau yng Nghanolbarth Cymru. Nid yw’r Bwrdd Iechyd wedi dangos ei fod yn barod i wrando ar unrhyw un (staff, unigolion, ACau, ASau) yng Nghanolbarth Cymru. Nid yw hyd yn oed yn bwriadu siarad gyda hanner y bobl sy’n byw y tu allan i’w ardal “swyddogol” yn nalgylch Bronglais. Mae hyn oll wedi arwain at yr angen i fynd â’r mater at lefel uwch na’r Bwrdd Iechyd gan apelio’n uniongyrchol at y Gweinidog Iechyd.

Language / Iaith